SL(6)203 – Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, sy’n diffinio eiddo domestig at ddibenion Rhan 3 (ardrethu annomestig) o’r Ddeddf honno.

 

Mae’r diwygiadau hyn yn cynyddu nifer y diwrnodau y mae rhaid bwriadu i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod, wedi bod ar gael i'w osod ac wedi'i osod, o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis, er mwyn cael ei ddosbarthu’n eiddo annomestig o fewn y system drethu leol. Mae eiddo o'r fath yn agored i dalu ardrethi annomestig (NDR).

 

Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i eiddo o'r fath fod wedi'i fwriadu i'w osod a bod ar gael i'w osod am o leiaf 140 diwrnod ac wedi'i osod mewn gwirionedd am o leiaf 70 diwrnod.

Bydd y Gorchymyn hwn yn cynyddu'r gofynion o 140 i 252 o ddiwrnodau ac o 70 i 182 o ddiwrnodau yn y drefn honno. Caiff eiddo hunanarlwyo nad ydynt yn bodloni'r meini prawf gosod yn cael eu dosbarthu fel eiddo domestig, ac maent yn agored i dalu'r dreth gyngor.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae paragraff 5.1 i 5.3 o'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn yn nodi'r ymatebion i ymgynghoriad polisi Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y cafwyd ymatebion gan amrywiaeth o randdeiliaid, a roddai awgrymiadau amrywiol ar gyfer y meini prawf o ran dosbarthiad annomestig:

Cynhaliwyd ymgynghoriad polisi rhwng 25 Awst a 17 Tachwedd 2021. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn, ymhlith materion eraill, am y meini prawf i'w bodloni ar gyfer dosbarthu eiddo hunanddarpar yn eiddo annomestig at ddibenion trethiant lleol. Cyhoeddwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar 1 Mawrth 2022.

Cafwyd 974 o ymatebion i'r ymgynghoriad, oddi wrth amrywiaeth eang o randdeiliaid. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, darparwyr hunanddarpar, busnesau lleol, cyrff cynrychioliadol, cyrff/cymdeithasau proffesiynol ac unigolion preifat.  

Roedd safbwyntiau'r ymgynghoriad yn cefnogi cynnydd yn y meini prawf yn gyffredinol a rhoddwyd amrywiaeth o awgrymiadau. Yr awgrymiadau penodol mwyaf cyffredin oedd bod eiddo ar gael i'w osod am 210 o ddiwrnodau ac yn cael ei osod am 105 o ddiwrnodau mewn gwirionedd, ond awgrymodd llawer o ymatebwyr hefyd niferoedd uwch.  Roedd rhai ymatebwyr o'r farn y dylai pob eiddo sy'n darparu llety byw gael ei ddosbarthu’n eiddo domestig a bod yn atebol am y dreth gyngor, neu'n awgrymu y dylai’r meini prawf gosod fod mor uchel fel y byddent yn cael yr un effaith. Nid oes dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i dderbyn yr ymateb penodol mwyaf cyffredin i ymgynghoriad.

Mae paragraff 5.4 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad technegol mewn perthynas â drafft o'r Gorchymyn. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y rhan fwyaf o’r ymatebion gan berchnogion eiddo hunanddarpar a’u cyrff cynrychioliadol, a oedd o’r farn bod y gofyniad i osod eiddo am 182 diwrnod yn rhy uchel:

Roedd drafft o Orchymyn 2022 yn destun ymgynghoriad technegol rhwng 1 Mawrth a 12 Ebrill 2022. Cafwyd 499 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Roedd y mwyafrif helaeth oddi wrth berchnogion eiddo hunanddarpar a chyrff cynrychioliadol a ddywedodd fod y meini prawf o osod eiddo am 182 o ddiwrnodau yn rhy uchel. Felly, roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad technegol yn benodol iawn i'r sector, gan gwmpasu rhan yn unig o'r set ehangach o randdeiliaid a ymatebodd i'r ymgynghoriad polisi blaenorol.  Disgwylir hyn yn gyffredinol ar gyfer ymgyngoriadau technegol, sy'n denu ymatebion yn bennaf oddi wrth randdeiliaid y bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn gymwys iddynt yn uniongyrchol. Ni nodwyd unrhyw broblemau o ran eglurder technegol y Gorchymyn. Nodwyd rhai meysydd o gamddealltwriaeth o ran cymhwyso ac amseriad y Gorchymyn, a fydd yn cael eu hegluro mewn canllawiau diwygiedig.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Mehefin 2022